Contact Centre Adviser (1x permanent, 3x 12 month fixed term)

Are you passionate about providing an excellent service to a variety of stakeholders, confidently resolving a range of complex issues? Are you tired of working to targets and want to focus solely on delivering world class customer service? 

We are looking for Contact Centre Advisers to join us on a full-time basis, working 35 hours per week. You will be working Monday to Friday on rotating shifts. There is no requirement to work at weekends. We have embraced hybrid working and so after two months of induction training and supported introduction to the role, you can work remotely at home four days each week. Our offices are based in Spinningfields, right at the heart of Manchester. We’re only a short walk from various train and tram stations.

You’ll be given opportunities to earn more, learn more and develop your career while working for an organisation that promotes staff wellbeing with an emphasis on a healthy work life balance.

What you’ll be doing

As a Contact Centre Adviser, you’ll play an integral role in making sure the GMC operates effectively. You will:

  • Answer calls, emails, letters and web-based enquiries about a wide variety of issues from a range of customers.
  • Accurately update our customer systems during and after customer contacts.
  • Correctly interpret the information stored on our systems to ensure excellent delivery and service at all times.
  • Meet and exceed departmental and individual SLAs.
  • Fully comply with the GDPR and GMC’s policies and procedures to ensure confidentiality and to maintain GMC standards.
  • Participate in staff training and be responsible for own development by keeping up to date with all new procedural developments.

You don’t need call centre experience to thrive in this role. If you’re a natural listener and communicator with a real commitment to providing excellent customer service, we can provide all the training you need. It all begins with a comprehensive induction. As an organisation that is genuinely committed to its people, we’ll offer ongoing training that will really see you grow.

Apply today and kick start your career with us! 

How to apply for the role

Please provide a CV and covering letter. The covering letter should clearly set out how you meet the essential skills for the role, which are listed in the job description. You should also include a paragraph outlining your reasons for applying for the role.

We recommend no more than 2 sides of A4 for the covering letter, but it can be more if required.

We will assess the information you provide against the skills required for the role and let you know whether you will progress to the next stage of the recruitment process.

If you do not provide all the above, we will not be able to progress your application.

Applications may be submitted in Welsh, please contact recruitment@gmc-uk.org to access a copy of the translated application form.  Please be assured that an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.

Please note that the interviews and assessments are due to take place from 12 to 14 February 2025 over an MS Teams call. Candidates need to be available to attend on these dates. The start date for successful applicants will be 24 March 2025, you will be required to attend a full five-week initial induction followed by a further four weeks supported introduction into the role. This will be based in the office. During this period, requests for annual leave will not be accepted. 

We are recruiting for positions in this campaign on a full-time basis.  Your training will be office based.  We will be able to offer hybrid working with a mixture of home and office working upon successful completion of your training. 

GMC Benefits – Why work for us

We work with doctors, physician associates (PAs), anaesthesia associates (AAs), those they care for and other stakeholders to support good, safe patient care across the UK. We set the standards doctors, PAs, AAs and their educators need to meet, and help them achieve them. If there are concerns these standards may not be met or that public confidence in doctors, PAs, or AAs may be at risk, we can investigate, and take action if needed.

In return for your hard work, you’ll get

  • £25,500
  • 30 days holiday with the option to buy and sell more.
  • a generous 15% employer contribution pension
  • Flexible hybrid working
  • Discounts at 100s of high street and online stores
  • Discounted on site gym membership.
  • Private medical insurance
  • Employee assistance programme
  • Cycle to work scheme for those wanting a greener commute.
  • Bike lockers and shower facilities
  • a range of learning and development opportunities designed to support your ongoing progression.

The GMC values diversity and has made a public commitment to processes and procedures that are fair, objective, transparent and free from discrimination. We are also committed to the Disability Confident employer scheme and support the requirements of the Disability Confident interview scheme. If you have a disability and meet the cut-off mark for the essential criteria for this role as outlined in the person specification document, you will be offered an interview.

The GMC is a charity registered in England and Wales (1089278) and Scotland (SC037750)

 Welsh

Ydych chi’n teimlo’n gryf am roi gwasanaeth rhagorol i amrywiaeth o randdeiliaid, gan ddatrys ystod o broblemau cymhleth yn hyderus? Ydych chi wedi blino ar weithio i dargedau ac eisiau canolbwyntio dim ond ar roi gwasanaeth cwsmer o’r radd flaenaf?

Rydym yn chwilio am Gynghorwyr Canolfan Gyswllt i ymuno â ni yn llawn amser, gan weithio 35 awr yr wythnos.. Byddwch yn gweithio o ddydd Llun tan ddydd Gwener gan ddilyn trefn cylchdroi shifftiau. Ni fydd angen gweithio ar benwythnos. Rydym wedi cofleidio gweithio’n hybrid felly ar ôl deufis o hyfforddiant cynefino a chymorth cyflwyno i’r rôl, gallwch weithio gartref o bell ar bedwar diwrnod yr wythnos. Mae ein swyddfeydd yn Spinningfields, yng nghanol dinas Manceinion. Gallwch gerdded yn hawdd i wahanol orsafoedd trên a thram.

Byddwch yn cael cyfle i ennill mwy, dysgu mwy a datblygu eich gyrfa gan weithio i sefydliad sy’n hybu lles ei staff ac yn rhoi pwyslais ar gydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.

Beth fyddwch chi’n ei wneud

Fel Cynghorydd Canolfan Gyswllt bydd gennych rôl annatod mewn sicrhau bod y GMC yn gweithio’n effeithiol.

Byddwch:

  • Yn ateb galwadau ffôn, e-byst, llythyrau ac ymholiadau ar y we am amrywiaeth eang o faterion gan wahanol gwsmeriaid.
  • Yn diweddaru ein systemau cwsmeriaid yn gywir yn ystod ac ar ôl cyswllt â chwsmeriaid.
  • Yn dehongli’r wybodaeth a gedwir ar ein systemau’n gywir i sicrhau bod gwasanaeth rhagorol yn cael ei roi bob amser.
  • Yn cwrdd a rhagori ar gytundebau lefel gwasanaeth adrannol ac unigol.
  • Yn cydymffurfio’n llawn â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a pholisïau a gweithdrefnau’r GMC i sicrhau y cynhelir cyfrinachedd a safonau’r GMC bob amser.
  • Yn cymryd rhan mewn hyfforddiant staff ac yn gyfrifol am eich hunanddatblygiad drwy fod yn ymwybodol o bob datblygiad gweithdrefnol newydd.

Ni fydd angen profiad canolfan gyswllt arnoch i ffynnu yn y rôl hon. Os ydych yn wrandäwr a chyfathrebwr naturiol gydag ymrwymiad gwirioneddol i wasanaeth cwsmer rhagorol, darparwn yr holl hyfforddiant fydd ei angen arnoch. Mae popeth yn dechrau gyda chynefino cynhwysfawr. Fel sefydliad sydd ag ymroddiad diffuant i’w bobl, cynigiwn hyfforddiant parhaus fydd yn eich helpu o ddifrif i dyfu.

 Ymgeisiwch heddiw a rhoi cychwyn da i’ch gyrfa! 

Sut i ymgeisio am y rôl

Dylech ddarparu CV a llythyr eglurhaol. Dylai’r llythyr eglurhaol egluro’n glir sut yr ydych yn cwrdd â’r sgiliau sy’n hanfodol i’r rôl, a restrir yn y swydd-ddisgrifiad. Dylech hefyd gynnwys paragraff yn egluro eich rhesymau dros ymgeisio am y rôl.

Argymhellwn ddim mwy na 2 ochr o bapur A4 ar gyfer y llythyr eglurhaol, ond gall fod yn hirach.

Byddwn yn asesu’r wybodaeth a roddwch i ni yn erbyn y sgiliau sydd eu hangen ar y rôl ac yn rhoi gwybod i chi a fyddwch yn symud ymlaen i gam nesaf y broses recriwtio. 

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, cysylltwch â recruitment@gmc-uk.org i gael copi o’r ffurflen gais wedi ei chyfieithu.  Gallwch fod yn dawel eich meddwl na fydd cais yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais yn y Saesneg.

Os na fyddwch yn darparu’r uchod i gyd, ni fyddwn yn gallu prosesu eich cais. 

Cofiwch y bydd y cyfweliadau a’r asesiadau’n cael eu cynnal yn ystod yr wythnosau sy’n dechrau o 12 i 14 Chwefror 2025 dros MS Teams. Bydd angen i ymgeiswyr fod ar gael ar y dyddiadau hyn. Y dyddiad dechrau i ymgeiswyr llwyddiannus fydd 24 Mawrth 2025, bydd angen i chi fynychu cyfnod cynefino cychwynnol llawn o 5 wythnos, gyda 4 wythnos arall i ddilyn o gymorth cyflwyno i’r rôl. Bydd hyn yn digwydd yn y swyddfa. Dros y cyfnod hwn ni fyddwn yn derbyn ceisiadau gwyliau blynyddol.

Mae swyddi yn yr ymgyrch hon yn cael eu recriwtio ar sail llawnamser.Bydd eich hyfforddiant yn digwydd yn y swyddfa. Gallwn gynnig gweithio hybrid gyda chymysgedd o weithio gartref ac yn y swyddfa ar ôl i chi gwblhau eich hyfforddiant yn llwyddiannus.

Buddion y GMC – Pam gweithio i ni

Rydym yn gweithio gyda meddygon, cymdeithion meddygol (PA), cymdeithion anesthesia (AA), y rhai y maent yn gofalu amdanynt a rhanddeiliaid eraill i gefnogi gofal da a diogel i gleifion ledled y DU. Rydym yn gosod y safonau y mae angen i feddygon, cymdeithion meddygol, cymdeithion anesthesia a’u haddysgwyr eu bodloni, ac yn eu helpu i’w cyrraedd. Os oes pryderon na fydd y safonau hyn yn cael eu bodloni o bosibl, neu y gallai hyder y cyhoedd mewn meddygon, cymdeithion meddygol neu gymdeithion anesthesia fod mewn perygl, gallwn ymchwilio, a chymryd camau os oes angen.

Am eich gwaith caled byddwch yn cael

  • £25,500
  • 30 diwrnod o wyliau ac opsiwn i brynu a gwerthu mwy
  • cyfraniad hael o 15% gan y cyflogwr at eich pensiwn
  • Gweithio’n hybrid a hyblyg
  • Disgownt mewn cannoedd o siopau stryd fawr ac ar-lein
  • Disgownt ar aelodaeth campfa ar y safle
  • Yswiriant meddygol preifat
  • Rhaglen cymorth staff
  • Cynllun beicio i’r gwaith i rai sy’n awyddus i gymudo’n fwy gwyrdd
  • Storfa ddiogel i feics a chyfleusterau cawod
  • Ystod o gyfleoedd dysgu a datblygu er mwyn eich cynorthwyo i symud ymlaen yn eich gyrfa.

Mae’r GMC yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac wedi gwneud ymrwymiad cyhoeddus i brosesau a gweithdrefnau sy’n deg, gwrthrychol, tryloyw a di-wahaniaethol. Rydym hefyd wedi ymrwymo i’r cynllun cyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac i gefnogi gofynion y cynllun cyfweliad Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd ac yn gallu bodloni gofynion sylfaenol y meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl hon, fel yr eglurir ym manyleb y person, byddwn yn cynnig cyfweliad i chi.

Mae’r GMC yn elusen wedi’i chofrestru yng Nghymru a Lloegr (1089278) a’r Alban (SC037750).

Directorate
Registration and Revalidation
Location
Manchester
Level
5
Salary
£25,500
Contract
Permanent and Fixed Term
Closing date
Midnight on Sunday 2 February 2025. Late applications will not be accepted
Assessment date
Interviews and assessments will take place from 12 to 14 February 2025
Job reference
GMC4363